Daeth Arweinwyr a grwpiau gweithredu cymunedol y Canolbarth ynghyd i fynnu atebion am ddyfodol gwasanaethau iechyd cefn gwlad
Roedd yr ymgyrch Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) yn falch iawn o allu dod ag Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol a grwpiau gweithredu ysbytai cymuned o bob rhan o’r Canolbarth at ei gilydd ar gyfer Uwchgynhadledd Iechyd y Canolbarth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 17 Hydref.
Mae’r uwchgynhadledd yn dilyn ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais, ochr yn ochr â bygythiad i dorri gwelyau mewn ysbytai cymuned yn Nhywyn, ym Machynlleth, yn Llanidloes, yn y Trallwng ac yn Llandrindod. Mae AGB yn rhybuddio y gallai’r newidiadau roi rhagor fyth o bwysau ar Fronglais, unig ysbyty cyffredinol dosbarth y Canolbarth, sy’n gwasanaethu pedair sir. Yn benodol, bydd cael gwared â chyfleusterau gofal camu i lawr o ysbytai cymuned ac Unedau Mân Anafiadau yn rhoi rhagor o bwysau ar ddrws ffrynt a drws cefn Bronglais. Mae AGB hefyd yn fwyfwy pryderus am ddiffyg ymateb Llywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol Bronglais a’i ddatblygiad fel ysbyty cyffredinol dosbarth gwledig enghreifftiol. Gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu trafferthion ariannol a chynllunio difrifol, a gwelyau a chyfleusterau ysbytai cymuned o dan fygythiad ar draws y Canolbarth yn ehangach, mae’r grŵp yn dweud bod gwasanaethau iechyd a gofal y rhanbarth “ar fin syrthio i argyfwng”.
Ar ben hynny, o ran cael gwared â gwelyau o ysbytai cymuned (ac mae’n gwbl warthus fod hyn eisoes wedi digwydd yn slei bach yn Nhywyn, Meirionnydd), dyw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddim yn gallu cadarnhau y bydd ganddyn nhw fyddin ddigon mawr o ofalwyr symudol i lenwi’r bwlch drwy ddarparu gofal yng nghartrefi pobl. Felly unwaith eto, maen nhw’n cynnig cael gwared â gwasanaethau cyn dangos sut maen nhw’n bwriadu’u disodli nhw. Fel sy’n digwydd bob tro, mae’n debyg, ein pobl hŷn a’n pobl fregus fydd yn cael eu taro waethaf gan y newidiadau hyn.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chymunedau
Gofynnodd AGB i Lywodraeth Cymru gwrdd â chymunedau ac egluro beth fydd y cynigion yn ei olygu i iechyd a gofal ar draws y rhanbarth, a sut mae Gweinidogion yn bwriadu ymyrryd lle bo angen.
Galwodd y grŵp ar Weinidog Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob grym sydd ganddo i sicrhau bod gan bobl y Canolbarth lais go iawn wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd, a hynny ar frys. Mae’n dadlau bod rhaid rhoi’r un pwys i brofiadau, blaenoriaethau a barn pobl ag i angen clinigol pan fydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u newid.
Mae daearyddiaeth yn bwysig
Mae AGB yn dweud na all cymunedau gwledig fforddio colli gwasanaethau lleol hanfodol pan fo cleifion eisoes yn wynebu teithiau o hyd at dair awr i apwyntiadau ysbyty, yn aml heb gysylltiad uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Ysbyty Bronglais yn gwasanaethu cleifion o dri bwrdd iechyd gwahanol, ond eto mae’n ymddangos bod penderfyniadau’n aml yn cael eu gwneud ar wahân, heb ystyried yn ddigonol eu heffaith ar lwybrau cleifion yn ehangach. Dyw Bronglais ddim yn perthyn i Aberystwyth neu Geredigion yn unig; mae’n hysbyty ni’n perthyn i bobl y Canolbarth gyfan, ‘Calon y Canolbarth’. Mae llwybr gofal unigolyn yn aml yn croesi ffiniau daearyddol a ffiniau sefydliadol, ac mae hynny, yn ôl AGB, yn golygu bod cydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau’n hanfodol.
Wrth siarad yn yr uwchgynhadledd, dywedodd Cadeirydd AGB, Lisa Francis:
‘Ar hyn o bryd, dim ond gwasanaeth gwefus mae cyrff fel Cyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn ei roi i’r ymrwymiad hwnnw, tra bod profiad cleifion yn wahanol iawn. Er bod cleifion Bronglais yn dod o ardaloedd tri bwrdd iechyd gwahanol, mae’n ymddangos bod y byrddau’n gweithio mewn seilos, ac mae angen llawer mwy o feddwl cydgysylltiedig.’
Poblogaethau Gwledig, Modelau Dinasedig
Mae AGB yn dadlau taw’r her go iawn i’r Canolbarth yw sut i ddarparu’r gorau posib i’w holl boblogaeth, nid sut i wasgu’r boblogaeth i fodelau iechyd a gofal sydd ddim ond wir yn gallu gweithio mewn ardaloedd trefol. Fydd gwasanaethau arbenigol iawn byth yn lleol i boblogaethau gwledig. Mae angen cydnabod yn agored y cyfyngiadau daearyddol, gyda mynediad anodd yn aml at drafnidiaeth breifat, trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol ofnadwy, a chanllawiau cenedlaethol wedi’u llunio ar gyfer poblogaethau llawer dwysach. Mae’n hanfodol cynllunio gwasanaethau fydd yn gweithio go iawn.
Aeth Lisa yn ei blaen:
‘Mae ffyrdd arloesol o weithio o gwmpas y cyfyngiadau daearyddol; mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hyfforddiant, technoleg ac atebion newydd. Fe allai’n hysbytai cymuned ni gael eu defnyddio fel ‘Hybiau Iechyd’, er enghraifft, lle gallai technoleg ddigidol, cysylltiadau fideo a chlinigau allgymorth gyda meddygon ymgynghorol sy’n ymweld gael eu cynnal, yn ogystal â chlinigau rheolaidd fel clinigau cyn-geni a chlinigau gwaed ac ati.
‘Mae rhaglenni hyfforddi ein meddygon bron bob amser wedi’u lleoli mewn ysbytai trefol, ac felly mae meddygon yn cael eu hyfforddi ar gyfer canolfannau trefol, pan taw’r hyn sydd ei angen ar ardaloedd gwledig yw cyffredinolwyr medrus sydd wedyn yn gallu ychwanegu set o sgiliau arbenigol. Fe all ymgynghori o bell, diagnosteg a rennir ac archwilio drwy fideo ymestyn cyngor arbenigol i leoliadau gwledig, o fewn terfynau.’
Ymgysylltu go iawn â’r cyhoedd
Mae AGB o’r farn bod rhaid i fyrddau iechyd, fel cyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, fod yn atebol yn y pen draw i gynrychiolwyr etholedig ac i Lywodraeth Cymru. Mae’n cyfeirio at Adran 1 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), sy’n gosod dyletswydd statudol hollgynhwysol yn uniongyrchol ar Weinidogion Cymru i hybu gwasanaeth iechyd cynhwysfawr a chyfartal ym mhob rhan o Gymru.
Mae’r grŵp hefyd yn cyfeirio at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ei hun yn ei Rhaglen Lywodraethu (2026–2030), ‘Uchelgais Newydd i Gymru’, sef rhoi diwedd ar weithio mewn seilos a llunio polisi digyswllt, cryfhau cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol, cynllunio gwasanaethau o gwmpas anghenion pobl, darparu’r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac mor agos at adre â phosib, gwella’r pontio rhwng gwasanaethau, lleihau amrywiadau rhanbarthol a gwella tegwch mynediad, rhoi llais cryfach i gleifion a dinasyddion, cryfhau cynllunio ar draws y system, ac adolygu, a newid lle bo angen, strwythurau sefydliadol a llywodraethu er mwyn gwella effeithiolrwydd ac atebolrwydd.
“Mae’r rhain yn ymrwymiadau pwysig,” medd AGB. “A dweud y gwir, ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ei hun ydyn nhw, a’r cwestiwn i’r Canolbarth yw sut fyddan nhw’n cael eu gwireddu.”
Galwad am Weithredu ar Wasanaethau Iechyd yn y Canolbarth
Dyw AGB ddim yn credu taw’r ateb yw i bob bwrdd iechyd ystyried y materion hyn ar wahân. Mae’n cydnabod bod gan fyrddau iechyd unigol eu cyfrifoldebau eu hunain, ac mae’n dweud y bydd yn parhau i ymateb yn adeiladol i’w hymgynghoriadau. Ond mae’r materion sy’n wynebu’r Canolbarth yn croesi ffiniau sefydliadol, ac mae angen ymateb brys gan Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
“Mae pobl y Canolbarth yn haeddu gwasanaeth Iechyd a Gofal sy’n gweithio iddyn nhw, nid system sy’n disgwyl iddyn nhw weithio o’i chwmpas hi.”
“Mae pobl y Canolbarth yn haeddu gofal teg a hygyrch sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn,” medd AGB. “Mae’n ymddangos bod y trefniadau presennol yn amharod neu’n methu ei ddarparu. Mae angen atebion clir ynglŷn â sut fydd hyn yn cael ei gyflawni, gan roi gwerth gwirioneddol i leisiau a phrofiadau pobl leol. Dyna oedd pwrpas yr uwchgynhadledd hon.”
Yn siarad ar ôl yr uwchgynhadledd, dywedodd Lisa Francis:
“Ry’n ni’n falch iawn fod pawb oedd yn bresennol wedi llofnodi’r Datganiad. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol, ac i’r gwleidyddion oedd yno, byddwch yn siŵr y byddwn ni’n eich dal chi iddo fe.
Dwi’n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi gwneud datganiad yn y Senedd yn ddiweddar am fframwaith newydd ar gyfer monitro gwasanaethau iechyd a gofal. Fe ddywedodd e taw dim ond hyn a hyn mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu iddo fe ei wneud i ddal byrddau iechyd i gyfrif. Yn yr un modd, o ran ymyrryd mewn newidiadau arfaethedig i wasanaethau byrddau iechyd sy’n amlwg yn niweidiol i bobl y Canolbarth, mae’r Cwnsler Cyffredinol, Cynghorydd Cyfreithiol y Senedd ei hun, wedi datgan taw dim ond os ydyn nhw’n ymwneud â methiant llywodraethu, methiant perfformiad ac arfer swyddogaethau gan fyrddau iechyd y gellir defnyddio pwerau ymyrryd.
Wedi dweud hynny, ry’n ni’n gwybod bod cynsail yng Nghymru yn y gorffennol i Weinidogion ymyrryd: Edwina Hart, Mark Drakeford a Vaughan Gething, i enwi dim ond rhai.
Dwi’n meddwl falle taw achos o ddod o hyd i’r ewyllys wleidyddol i’w wneud e yw hyn! Yn yr un modd, os oes angen newid y ddeddfwriaeth fel ein bod ni’n gyfartal â Lloegr a’r Alban, lle gall gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd ‘alw i mewn’ gynigion neu roi eu sêl bendith i newidiadau mawr i wasanaethau, yna gadewch i ni wneud i hynny ddigwydd. Ers blynyddoedd, mae Llywodraethau Cymru olynol wedi bod yn conan am beidio â chael y pwerau priodol; mewn gwirionedd, mae’r pŵer ganddyn nhw nawr ac mae’n hen bryd i’r ddeddfwriaeth adlewyrchu hynny. Os oes angen newid deddfwriaeth, boed felly!
Ein cam nesaf yw gofyn am gyfarfod rhwng Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru, a’r grwpiau oedd yn cael eu cynrychioli yn yr uwchgynhadledd. Byddwn ni’n gofyn i hyn ddigwydd cyn y Nadolig.
Mae pobl y Canolbarth wedi siarad; all y Gweinidog ddim anwybyddu’n llais ni.”
Hoffai AGB ddiolch i’r holl Grwpiau Gweithredu Ysbytai Cymuned am ddod ac am eu cyfraniadau gwerthfawr i’r uwchgynhadledd, sef grwpiau o Dywyn, Fachynlleth, Lanidloes a Landrindod.
Ry’n ni hefyd yn ddiolchgar iawn am y cyfraniadau a’r cyflwyniadau gan Dr Phil Jones (cyn-Feddyg Strôc yn Ysbyty Bronglais a chyn-Arweinydd Strôc Cymru), Tom Brooks (Community Hospitals Association UK) a Mark Williams (Cadeirydd Fforwm Gogledd Ceredigion ar gyfer Gofal Pobl Hŷn).
Ry’n ni hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr ein bod ni wedi cael sgiliau cadeirio cadarn a phrofiadol y dyn lleol a’r hen ymgyrchydd iechyd, Jack Evershed.
Diolch i chi gyd.
Diolch o galon.

