Datganiad i’r Wasg
I’w ryddhau ar unwaith
Dyddiad: Dydd Sul 19 Hydref 2025
Bydd grŵp o ymgyrchwyr o Geredigion, Meirionnydd a Phowys yn teithio i Fae Caerdydd ddydd Mercher 22 Hydref i fynychu’r ddadl yn y Senedd ar wasanaethau strôc yng Nghanolbarth Cymru. Daw’r ddadl yn dilyn deiseb a lofnodwyd gan dros 17,500 o bobl yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddiogelu ac i fuddsoddi yn uned strôc Ysbyty Bronglais, yn hytrach na’i hisraddio i fodel “trin a throsglwyddo”.
Mae Ysbyty Bronglais ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth strôc o safon uchel. Serch hynny, nid oes gan gynigion ymgynghori Hywel Dda unrhyw gynlluniau i gadw gwasanaeth strôc llawn yn y Bronglais, ac yn hytrach gallai cleifion strôc acíwt gael eu trosglwyddo dros ddwy awr i ffwrdd am driniaeth. Mae PBS a’n cefnogwyr yn credu bod hyn yn anniogel, yn annheg ac yn gwbl annerbyniol i Ganolbarth Cymru.
Er mwyn sicrhau bod lleisiau Canolbarth Cymru yn cael eu clywed, mae Protect Bronglais Services (PBS) wedi rhoi cymhorthdal ar gludiant er mwyn i gefnogwyr allu mynychu’r ddadl yn bersonol, gan gynnwys goroeswyr strôc, cleifion a chynrychiolwyr cymunedol o Geredigion a Phowys. Mae’r bws, a ddarperir gan Lloyds Coaches, wedi’i gyd-drefnu gyda chefnogaeth Fforwm Cleifion Machynlleth a’r ymgyrchwyr lleol ymroddedig Keith Jackson, Ruth Davies, a Lisa Francis, Cadeirydd PBS ei hun. Hoffai PBS fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt i gyd am eu gwaith caled wrth drefnu hyn ar fyr rybudd.
Bydd y grŵp yn ymgasglu ar risiau’r Senedd cyn y ddadl i ddangos cryfder teimladau cymunedau Canolbarth Cymru ac i annog y penderfynwyr i warantu gwasanaethau teg, lleol ac achub bywydau i bawb.
Bydd modd gwylio’r ddadl yn fyw ar Senedd.tv
DIWEDD
Cyswllt: protectbronglais@gmail.com neu 07876 15 20 99

