Llythyr i’r Golygydd ynglyn a’r ymgyrch i Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais

24/01/2025

Rhyddhawyd y llythyr canlynol i’r wasg yn dilyn ein cyfarfod ddydd Gwener, 24 Ionawr 2025:

Annwyl Syr,

Roedd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) wrth ei fodd o weld cynulleidfa mor fawr yn y cyfarfod cyhoeddus yr wythnos diwethaf yn Aberystwyth, lle trafodwyd cynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer newid gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais. Llenwyd 170 o seddi, gyda phobl yn gorfod sefyll—ac o ystyried y tywydd gwael, roedd y dorf fawr hon yn dyst i gryfder y teimladau ynghylch y cynigion hyn. Daeth pobl o bob cwr o Ganolbarth Cymru a wasanaethir gan Ysbyty Bronglais i fynegi eu pryderon.

Roeddem hefyd yn falch o weld bod Hywel Dda wedi derbyn ein gwahoddiad i’r cyfarfod ac wedi mynegi dymuniad i ymgysylltu â’r gymuned ac i dderbyn adborth.

Serch hynny, mae AGB yn credu bod y cynllun i ‘drin a throsglwyddo’ cleifion strôc o Fronglais i ysbyty arall ymhellach i’r de (dros 90 munud o daith, a llawer pellach os ydych yn byw yn Nhŷwyn neu yn Llanidloes) yn un ddiffygiol, ac rydym yn parhau i’w wrthwynebu. Bydd symud cleifion strôc i ffwrdd ar gyfer eu hadsefydlu yn cael effaith greulon a thrawmatig arnynt hwy a’u teuluoedd. Mae cefnogaeth anwyliaid ar ôl strôc yn hanfodol i adsefydlu, ac nid oes unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol rhwng Aberystwyth ac Ysbyty Withybush yn Hwlffordd nac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. At hynny, nid oes manylion yn y cynllun ynghylch gwasanaeth ambiwlans a fyddai ar gael i drosglwyddo cleifion ac yna eu dychwelyd adref wedyn.

Derbyniodd Prif Weithredwr Hywel Dda, yr Athro Philip Kloer, yn y cyfarfod fod y cynlluniau’n ‘anghyflawn’ a bod hynny oherwydd nad ydynt eto wedi cyrraedd cam ymgynghori. Dadleua AGB na ddylid hyd yn oed gofyn i’r cyhoedd ymgynghori ar rywbeth mor amhendant. Dywedodd yr Athro Kloer nad yw’r newidiadau arfaethedig wedi’u gyrru gan faterion ariannol (er bod gan Hywel Dda ddiffyg sylweddol), ond yn hytrach eu bod yn ymwneud ag ansawdd gwasanaethau. Dywedodd wrthym fod angen canolfan lle mae pob math o therapïau angenrheidiol ar gyfer adsefydlu strôc –

Ond y gwir yw bod diffyg enbyd o’r therapyddion hyn o fewn y GIG ar hyn o bryd. Mae canllawiau Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ar gyfer strôc yn argymell bod angen darparu therapïau o’r fath saith diwrnod yr wythnos gyda sesiynau adsefydlu dwys, ond yn ôl y cynllun arfaethedig, bydd y ganolfan newydd ar gyfer adsefydlu strôc ond yn gweithredu rhwng 9am a 5pm, pum diwrnod yr wythnos. Hefyd, mae uned strôc Llanelli yn cael ei disgrifio yn y cynllun fel Uned Strôc Gynhwysfawr—nid yw hynny’n gywir. Yr unig uned strôc gynhwysfawr yng Nghymru (gyda llawdriniaeth niwrolegol, niwroradioleg, radioleg ymyrraeth a llawdriniaeth fasgwlaidd) yw uned Caerdydd.

Hysbysodd Phil Jones, cyn Ymgynghorydd Strôc yn Ysbyty Bronglais a chyn-arweinydd Strôc Cymru (a fynychodd y cyfarfod), mai yn ôl yr adroddiad SSNAP diweddaraf (sy’n mesur ansawdd a threfniadaeth gofal strôc yn y GIG), mae Bronglais yn sgorio B, gyda Glangwili a Withybush yn sgorio C, ac mae Llanelli yn sgorio D. Felly, os yw’r adsefydlu i ddigwydd mewn un o bedair ysbyty yn ardal Hywel Dda, pam nad oes unrhyw un o’r opsiynau yn y cynllun yn nodi y gallai hyn ddigwydd ym Mronglais?

Wrth gwrs, mae gan Lanelli’r boblogaeth uchaf o’r holl etholaethau o fewn Canolbarth a Gorllewin Cymru; dyma hefyd leoliad arweinydd strôc presennol Hywel Dda. Yn sylweddol, mae Llanelli yn agos iawn at Abertawe, ac mae Hywel Dda yn cynnal llawer o gydweithio â Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Ni all Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais beidio â bod yn amheus. Wedi’r cyfan, mae llawer ohonom wedi wynebu sefyllfa debyg o’r blaen, lle bu’n rhaid i ni frwydro i gadw gwasanaethau hanfodol ym Mronglais – ac fe wnawn hynny eto. Edrychwn at ein cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd ac yn San Steffan (ac roeddem yn falch o dderbyn cefnogaeth Elin Jones, Mabon ap Gwynfor a Ben Lake yn y cyfarfod) i ymgyrchu drosom. Bydd AGB yn lobïo Gweinidog Iechyd y Senedd a Llywodraeth Cymru i atal y cynigion hyn rhag dod i rym.

Mae ein cleifion strôc sy’n dibynnu ar Fronglais yn haeddu gwell.
Mae ein staff ymroddedig a gweithgar ym Mronglais yn haeddu gwell.
Mae cymunedau Canolbarth Cymru yn haeddu gwell.

Fel y dywed ein baner AGB, “Bronglais yw Calon y Canolbarth” – calon ein cymunedau yng Nghanolbarth Cymru. Byddwch yn sicr bod Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais yn gwylio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn fanwl iawn.

Os hoffech ymuno â ni, mae ein tudalen Facebook yn Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais.

Yn gywir,

AR RAN AMDDIFFYN GWASANAETHAU BRONGLAIS

Lisa Francis


Share: