Wrth i ddyfodol gwasanaethau iechyd allweddol yn ein rhanbarth wynebu ansicrwydd, rydym ni yn cynyddu ei ymdrechion i hysbysu ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Gyda newidiadau arfaethedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i leihau Uned Strôc Ysbyty Bronglais yn sylweddol, rydym ni yn annog y gymuned i gymryd rhan a sefyll dros Ybsbyty Bronglais.
Diolch enfawr i Jon a Jill yn Mwnci Coch: Red Monkey am ddarparu bathodynnau a phosteri trawiadol i ni er mwyn helpu i ledaenu’r neges. Bydd y bathodynnau’n cael eu gwerthu am £2 yr un i helpu talu costau’r ymgyrch. Fe fyddwch yn gallu eu prynu yn y gyfarfod cyhoeddus nesaf ac mewn mannau amrywiol o amgylch Aberystwyth…cadwch lygad ar ein diweddariadau!
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ailgyflunio naw gwasanaeth iechyd rhanbarthol yn rhedeg o 29 Mai am ddeuddeg wythnos. Mae hwn yn gyfnod allweddol i’r gymuned ddod ynghyd ac ymgysylltu â’r broses.
I drafod y materion pwysig hyn, mae AGB yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar:
🗓 Dydd Gwener 20 Mehefin
⏰ 7:00 pm
📍 Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, SY23 3DE
Mae AGB yn gwahodd pawb yn gynnes i ddod i’r cyfarfod pwysig hwn a dangos cefnogaeth i amddiffyn gwasanaethau iechyd lleol ym Mronglais.
Ymunwch â ni. Mae eich llais yn bwysig!
Mewn undeb mae nerth – In unity there is strength.

