Cadeirydd AGB yn Egluro Pam Mae Cam Dau Hywel Dda’n Methu eu Meini Prawf eu Hunain

30/06/2026

Dyma gynnig i chi:

Mae’n debyg fod Hywel Dda, y brenin mawr o’r Oesoedd Canol (‘Hywel y Da’), y mae’r Bwrdd Iechyd hwn wedi mabwysiadu ei enw, yn troi yn ei fedd erbyn hyn ….

Annwyl Ffrindiau Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais,

Fel y byddwch chi’n gwybod erbyn hyn, yn eu doethineb, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi mynd allan i Gam 2 o’r Ymgynghoriad ar Wasanaethau Strôc ar draws yr ardal.

‘Nid eto!’ clywaf i chi’n dweud, sori, ond, mae arna i ofn ei fod e’n wir.

Dros y deunaw mis diwethaf, mae Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn glir i’r Bwrdd Iechyd nad oedd eu cynlluniau i israddio’r Uned Strôc ym Mronglais yn dderbyniol, ac yn wir, eu bod yn wael eu tystiolaeth ac yn beryglus ac yn anniogel.

Rydyn ni wedi:

  • codi ymwybyddiaeth gyhoeddus a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus poblogaidd
  • cyflwyno deiseb i’r Senedd gyda 17,885 o lofnodion
  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhanddeiliaid ar-lein i adolygu’r nifer o fodelau amgen a gynigiwyd gan aelodau’r cyhoedd
  • sicrhau dadl yn y Senedd ar wasanaethau strôc, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol
  • cyfarfod â Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd
  • trefnu “Cwtch Mawr” o amgylch Ysbyty Bronglais, gyda dros 800 o bobl yn bresennol, i ddangos ymrwymiad y gymuned i ddiogelu’r gwasanaethau

Er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn honni eu bod yn gwrando, mae’n amlwg nad ydyn nhw!

Pa ran o’r holl beth uchod allan nhw fethu â’i ddeall?

Mae’n debyg fod Hywel Dda, y brenin mawr o’r Oesoedd Canol, y mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu ei enw, yn troi yn ei fedd erbyn hyn ….

Mae ei egwyddorion craidd o ‘Degwch, Cydraddoldeb a Thosturi’, a gododd e’n gyfraith yng Nghymru, wedi cael eu sathru dan draed, yn ogystal â’i gred mewn ‘ymrwymiad i Gyfiawnder a Llywodraethu a oedd yn parchu hawliau pob dinesydd.

Am gywilydd, sut maen nhw’n cymryd ei enw e’n ofer!

Dyw’r ‘Opsiwn a Ffafrir’ newydd ar gyfer Gwasanaethau Strôc ddim yn wahanol iawn i’r hyn gawson ni y llynedd. Yn yr opsiwn yma, bydd cleifion strôc ym Mronglais yn cael eu sganio a’u thrombolyseiddio os oes angen, cyn cael eu hanfon ymlaen i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar gyfer adsefydlu – (cyn hyn, Llanelli neu Withybush oedd y dewis). Mae Glangwili dal yn rhy bell o feddwl am y ffyrdd gwael, y diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, a’r ansicrwydd o hyd ynglŷn â darpariaeth ambiwlans.

Ers 2005, dyw Hywel Dda erioed wedi llwyddo i droi unrhyw strategaeth ar bapur yn newid gwasanaeth go iawn, er budd y boblogaeth gyfan maen nhw i fod i’w gwasanaethu – waeth beth yw ffiniau’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd ar fai, gan eu bod nhw wedi dyrannu arian cyhoeddus heb fynnu gweld unrhyw gynnydd go iawn. Ac drwy gydol yr ymgynghoriad yma, mae’r Bwrdd wedi anwybyddu’r ffaith bod cymunedau yn Ne Gwynedd a Phowys hefyd yn dibynnu ar Fronglais fel eu prif ysbyty – sy’n gwasanaethu ardal eang a gwledig sy’n mynd ymhell y tu hwnt i ffiniau Hywel Dda ei hun.

Nid barn AGB yn unig yw hyn. Codwyd yr un pryderon dro ar ôl tro gan y cyhoedd yn ystod ymgynghoriad y llynedd, lle daeth teithio a hygyrchedd i’r amlwg fel y pwnc mwyaf dadleuol o’r cwbl.

Ddylai cleifion strôc Canolbarth Cymru ddim gorfod dioddef siwrne ambiwlans o naw deg munud ar hyd ffyrdd gwledig, araf, jest i gyrraedd adsefydlu. Dyw hyn ddim yn ddiogel, dyw e ddim yn deg, a dyw e ddim yn dderbyniol.

Dyw hyn ddim yn anodd.

Mae pobl Canolbarth Cymru’n deall hyn. Mae’n hen bryd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddeall hynny hefyd.

Felly, os ydych chi’n poeni am ddyfodol ein gwasanaethau strôc gymaint â ni, gofynnwn yn garedig i chi ymateb i’r Holiadur sy’n rhan o Ymgynghoriad Cam 2 Gwasanaethau Strôc.Dyma’r ddolen (yn Saesneg gan fod y fersiwn Gymraeg ddim yn gweithio ar adeg ysgrifennu hyn):

https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/csp-phase-2-stroke-questionnaire/surveys/questionnaire11?ts=1782828895733

Mae’r holiadur yn syml i’w lenwi, ond o ran Adran 4. Ystyriaethau Ychwanegol, os ydych chi’n cytuno â’n hymchwil ni a’r hyn rydyn ni’n ei ddweud, byddai AGB yn eich annog chi i gopïo a gludo’r canlynol i mewn i’r adran yma:

Yn ogystal â hyn, gofynnwn i chi sicrhau bod copi o’ch ymateb yn cael ei anfon at bob un o’r Aelodau Senedd canlynol sy’n cynrychioli’r ardaloedd a wasanaethir gan Ysbyty Bronglais, yn ogystal ag at Lefarwyr Iechyd y pleidiau gwleidyddol yn y Senedd. Dyma’r manylion:

Ceredigion Penfro:

Elin Jones

elin.jones-AS@senedd.cymru

Kerry Ferguson           

kerry.ferguson-AS@senedd.cymru

Claire Archibald

claire.archibald-AS@senedd.cymru

Paul Davies

paul.davies-AS@senedd.cymru

Paul Marr

paul.marr-AS@senedd.cymru

Gwynedd Maldwyn:

Sian Gwenllian

Sian.gwenllian-AS@senedd.cymru

Mabon ap Gwynfor sydd eisioes yn Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru

Mabon.apGwynfor-AS@senedd.cymru

Beca Brown

Beca.brown-AS@senedd.cymru

Claire Johnson-Wood

Claire.johnson-wood-AS@senedd.cymru

Andrew Griffin

andrew.griffin-AS@senedd.cymru

Natasha Asghar (Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal)

natasha.asghar-AS@senedd.cymru

Ken Skates (Gweinidog Cysgodol Llafur Cymru dros Iechyd a Gofal)

ken.skates-AS@senedd.cymru

James Evans (Gweinidog Cysgodol Reform Wales dros Iechyd)

James.evans-AS@senedd.cymru

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Mae eich cyfraniad chi’n hynod o bwysig ac yn cael ei werthfawrogi’n llwyr.

Mae’r Ymgynghoriad yma’n cau ar 26ain Gorffennaf 2026, felly plis ymatebwch nawr.

I’r rhai ohonoch chi fyddai’n well ganddyn nhw lenwi holiadur copi caled, mae AGB yn cynnal dau gyfarfod cyhoeddus – un yn Aberystwyth ac un ym Machynlleth – i’ch helpu chi i wneud hyn. Byddwn ni wedyn yn casglu’r ymatebion ac yn eu dosbarthu nhw’n bersonol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dolen Wefan ar gyfer Dogfennau Ymgynghori a Holiadur BIPHDd

Cofion gorau,

Lisa Francis
(Cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais)


Share: