Trosglwyddo Deiseb Bapur Uned Strôc Bronglais

13/09/2025

Oddi wrth ein Cadeirydd, Lisa Francis:

1300 ddoe (12.09.25)

Ar ddiwrnod gwyntog iawn ym Mae Caerdydd!

Llofnodion papur deiseb Uned Strôc Ysbyty Bronglais, sef 7,335 ohonynt, wedi’u trosglwyddo i ofal diogel Gareth Price, Clarc Deisebau’r Senedd, heblaw’r 10,854 sydd eisoes wedi’u cyflawni ar-lein!

Ro’n i’n amharod iawn i ollwng y ffeil flysgo borffor honno – mae pob un o’r llofnodion hyn yn werthfawr i Uned Strôc Bronglais a Chanolbarth Cymru – Calon y Canolbarth!

Cefais gyfle i gwrdd â’r Aelod o’r Senedd, Paul Davies, a’i Ymchwilydd, Jen, yn Oriel y Senedd a gofyn iddo a fyddai’n hoffi ymuno â ni wrth drosglwyddo’r ddeiseb. Gyda’r Aelodau Seneddol eraill, sef Elin Jones, Mabon ap Gwynfor, Russ George a Sam Kurtz, mae Paul wedi bod yn gefnogol i’n hymgyrch ac fe fynychodd gyfarfod cyhoeddus PBS ar y 20ed o Fehefin gyda’r rhai a grybwyllwyd uchod. Mae PBS yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth i gyd.


Share: