Yn fy marn i, mae’r bwrdd iechyd wedi methu ers ei sefydlu i gydnabod anghenion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu sy’n byw yng nghanolbarth Cymru. Nid yw’r boblogaeth hyn yn cael ei diffinio gan ffiniau’r bwrdd iechyd hwn ond yn cynnwys nifer fawr o bobl sy’n byw yng ngogledd Hywel Dda a’r ardaloedd ‘cyfagos’ o Fetsi a Phowys. Mae anghenion y boblogaeth wledig hon, sy’n byw yn rhai o’r cymunedau lleiaf dwys o ran poblogaeth yn y DU, wedi’u hanwybyddu’n gyson gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Yn hanesyddol, mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais wedi darparu’r gwasanaethau cyffredinol acíwt – cleifion mewnol ac allanol – i’r rhanbarth hwn o Gymru. Gwnaed llawer o gyfeiriadau at fapiau o Gymru gyda’r ysbytai cyffredinol arbenigol wedi’u hamlygu er mwyn dangos yr unigedd a’r angen am wasanaethau yn yr ardal hon. Ni all Hywel Dda anwybyddu effaith y ffaith hon a’r pryderon gwirioneddol sydd gan bobl sy’n byw yng nghanolbarth Cymru pan fo’r bwrdd iechyd yn bygwth gwasanaeth arall.
Ymddengys fod Hywel Dda yn gweld Bronglais fel problem yn hytrach na datrysiad i’r her o ddiwallu anghenion gofal iechyd ei boblogaeth; mae angen newid y meddylfryd gwreiddiedig hwnnw.
Mae’r seilwaith trafnidiaeth yn hynod wael; nid oes unrhyw draffordd ddeuol yng Ngheredigion. Mae teithio mewn car preifat o Fronglais i Lanelli dros ddwy awr i un cyfeiriad. Nid oes gan lawer o ddefnyddwyr gofal iechyd gar neu nid ydynt yn gallu gyrru. I’r boblogaeth hon, mae’r dewis yn fysiau neu drên. Mae trenau o Aberystwyth yn teithio i’r dwyrain, i’r Amwythig. I gyrraedd Llanelli ar drên byddai angen teithio i’r dwyrain, wedyn i’r de ac yn olaf i’r gorllewin eto; nid yw’n opsiwn ymarferol. Mae gwasanaethau bysiau’n anghyson ac yn cymryd sawl awr i deithio i Lanelli.
O ran y cynigion strôc yn benodol, nid yw WAST wedi nodi y gallant gefnogi’r cynnig hwn ac efallai mai dyna’r unig ymateb oedd angen i Hywel Dda ei gael. Dylai’r cynlluniau fod wedi dod i ben cyn gynted ag y gwyddwyd hynny.
Yn fy marn i, mae’r bwrdd iechyd wedi methu â chydnabod mynediad cleifion, gofalwyr a pherthnasau/ffrindiau at wasanaethau strôc iddynt hwy eu hunain a’u hanwyliaid wrth lunio’r cynllun hwn.
Mae Hywel Dda yn gyfrifol am y pedwar ysbyty lleiaf yng Nghymru – ac efallai yn y DU. Er gwaethaf hyn, prin yw’r dystiolaeth mewn unrhyw gynigion yn y cynllun clinigol fod y bwrdd iechyd wedi ystyried, heb sôn am ddatblygu, gynlluniau gydag ABMU ar gyfer dull rhanbarthol o iechyd ar gyfer canolbarth a de-orllewin Cymru. Nid oes synnwyr o gwbl i’r syniad mai Llanelli (sydd gamau i ffwrdd o Ysbyty Treforys) ddylai fod yr unig wasanaeth strôc is-acíwt i Hywel Dda pan edrychir drwodd o safbwynt cleifion a gofalwyr.
Mae gan Abertawe radioleg ymyrrol, niwro-radiograffeg, llawfeddygaeth fasgwlaidd a niwroleg ar y safle – elfennau hollbwysig o wasanaeth strôc cynhwysfawr (dim ond Caerdydd, yng Nghymru, sydd â niwrolawfeddygaeth a niwro-radiograffeg ymyrrol, sef yr elfennau eraill). Ni fydd Hywel Dda byth yn gallu sefydlu’r gwasanaethau hyn yn ei ysbytai ei hun a rhaid i’r bwrdd gydnabod hyn a chydweithio ag ABMU er lles ei gleifion.
Nid yw’r cynllun strôc yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y llwybr strôc cyfan a sut y bydd yr elfennau hynny’n cael eu diwallu i bob claf. Mae’r cyflwyniad a roddwyd yn wyneb-yn-wyneb ac yn hepgor yr heriau difrifol iawn.
Derbynnir yn y cynllun y bydd triniaeth hyper-acíwt strôc (thrombolysis neu ostwng pwysedd gwaed) yn cael ei darparu yn Ysbyty Bronglais; mae’n nodedig fod rheoli hemorrhage is-arachnoid (cyflwr arall a reolir gan unedau strôc) yn, ymddengys, cael ei anwybyddu’n llwyr yn y cynllun.
Y cam nesaf ar gyfer infarction ymennydd yw angiogram i sefydlu’r potensial ar gyfer adfer clwt. Yn hanesyddol, mae Bronglais wedi rheoli cleifion o Fetsi a Phowys. Mae gan y byrddau iechyd hyn gontractau gydag ysbytai eraill ar gyfer y gwasanaethau arbenigol hyn – er enghraifft, mae Betsi yn defnyddio Walton yn Lerpwl ar gyfer gwasanaethau niwrowyddoniaeth. Beth fydd yn digwydd gyda’r cleifion hyn?
Pan gafodd ei herio ynghylch hyn dywedodd y Prif Weithredwr wrthyf y byddai’n debygol y byddai Betsi’n newid patrymau atgyfeirio; mae hyn yn gynnig pryderus iawn. Os yw’r Prif Weithredwr yn croesawu newid yn llif cleifion yng nghanolbarth Cymru byddai hyn yn arwain at ddirywiad; dylai Bronglais gael ei gefnogi gan y bwrdd iechyd, nid cael ei adael ar y canghell. Mae Bronglais yn ddatrysiad i ddarparu gwasanaeth, nid yn broblem.
Ymddengys hefyd na fydd yr uned arfaethedig yn Llanelli yn cael gofal meddygol arbenigol strôc 24/7; mae’n debygol y byddai’r cymorth hwnnw ar gael dros y ffôn. Pam na allai’r cymorth hwnnw gwmpasu’r bwrdd iechyd ei hun? Ble mae’r ystyriaeth o rwydwaith strôc Hywel Dda?
Mae marwolaeth 1:7 ar ôl strôc. Nid yw cynlluniau’r byrddau iechyd yn ystyried effaith ystadegyn hwn a’r cleifion a’r teuluoedd sydd y tu ôl i’r ffaith. Nid oes unrhyw sôn am y grŵp hwn yn y ddogfen o gwbl. Y cyngor (o fewn canllawiau strôc cenedlaethol) yw y dylai cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes ar ôl strôc gael mynediad o hyd at arbenigedd strôc. Mae hynny’n golygu y bydd y bwrdd iechyd yn disgwyl i bob gofal diwedd oes sy’n gysylltiedig â strôc gael ei ddarparu yn Llanelli. Mae’n llawn perygl rhagdybio y gellir rhagweld pwy fydd yn goroesi strôc ar adeg derbyn gyda chywirdeb llwyr. Mae methiant y bwrdd iechyd i ystyried y grŵp hwn yn tanseilio’r cynnig yn angheuol.
Mae’r rhan fwyaf o oroeswyr strôc yn symud o ofal meddygol dwys drwy gyfnod llai dwys ac yna i gyfnod sy’n canolbwyntio ar adsefydlu gyda mynediad at arbenigedd meddygol fel bo’r angen. Yn y gorffennol yng nghanolbarth Cymru, byddai cleifion o Bowys yn dychwelyd i Drenewydd (o Fronglais) ar gyfer adsefydlu o dan therapydd ymgynghorol. Roedd hyn yn gweithio’n dda iawn gyda ychydig o gleifion yn gorfod cael eu haildderbyn yn acíwt ar ôl trosglwyddo; mae’n fodel gweithredol.
Mae cefnogaeth gorfforol teulu a ffrindiau i ddioddefwyr strôc sy’n cael adsefydlu yn enfawr. Serch hynny, mae’r bwrdd iechyd wedi methu’n llwyr i fynd i’r afael yn ystyrlon â’r maes hwn. Mae’r syniad syml o ddosbarthu iPads yn methu â chydnabod yr angen i ddysgu pobl sut i ddefnyddio’r offer ac yn methu’n llwyr i ystyried anghenion y claf â dysffasia (problemau cyfathrebu).
Mae’r bwrdd iechyd wedi methu ystyried gwasanaethau dan arweiniad therapyddion ac nid yw’n crybwyll defnyddio telefeddygaeth i gefnogi gwasanaethau strôc sy’n addas i’r boblogaeth wledig y mae’n eu gwasanaethu. Mae hwn yn fwlch sylweddol arall yn y cynllun a gyflwynwyd ac unwaith eto’n awgrymu bod y cynllun wedi’i ganolbwyntio ar nod rhagosodedig yn hytrach nag yn ganlyniad i ystyriaeth agored o sut y gellid datrys yr heriau orau i boblogaeth wledig.
Nid oes amheuaeth bod strôc, fel gwasanaethau acíwt eraill, yn cyflwyno heriau mawr i fwrdd iechyd sy’n cwmpasu ardal mor eang o Gymru ac sydd â phedwar safle i redeg y gwasanaethau hyn ohonynt. Ni ellir atgynhyrchu’r atebion safonol a arloeswyd gan ysbytai trefol mawr iawn gyda dwysedd poblogaeth uwch nag unrhyw ddinas yng Nghymru gan Hywel Dda; nid ydynt yn ffitio’r ddaearyddiaeth anhydrin.
O ystyried y ffaith nad yw’r ddaearyddiaeth, dwyseddau poblogaeth a’r seilwaith trafnidiaeth o fewn pwerau’r bwrdd iechyd i’w newid, rhaid i’r bwrdd ystyried atebion pwrpasol sy’n cynnig y gwasanaethau gorau posibl i’r boblogaeth a wasanaethir ganddo. Nid yw’r cynllun strôc a gyflwynwyd yn gynllun sydd ei angen; mae’n brin o arloesedd ac yn annigonol at y diben. Dylid ei dynnu’n ôl.
Dylid nodi mai hwn yw’r trydydd cynllun gwasanaethau clinigol y mae Hywel Dda wedi’i gynhyrchu ac fel y ddau flaenorol, nid yw’n cynnig unrhyw beth newydd nac ychwanegol i bobl canolbarth Cymru; mae’n ymddangos fel ymgais arall i danseilio gwasanaethau ac ansefydlogi Ysbyty Bronglais.
Nid yw Hywel Dda wedi cynnig unrhyw hyder bod ganddo weledigaeth ar gyfer gwasanaethau diogel, sicr a chynaliadwy (yn ariannol ac fel arall) i’r boblogaeth a wasanaethir ganddo. Mewn gwirionedd, mae’r cynllun strôc hwn wedi hepgor meysydd allweddol fel hemorrhage is-arachnoid, trafnidiaeth (claf a pherthnasau/gofalwyr), gofal lliniarol a chefnogaeth i gleifion sy’n cael adsefydlu gan deulu a ffrindiau. Mae’r hepgoriadau hyn yn fethiant difrifol ac yn awgrymu proses sylfaenol gamarweiniol.
Dylid defnyddio Bronglais fel canolfan wledig ar gyfer gofal strôc: cleifion yn cael eu derbyn yn acíwt ar gyfer gofal brys lleol, ymchwiliad ar unwaith i asesu addasrwydd ar gyfer gofal trydyddol arbenigol iawn (boed hynny drwy niwro-radiograffeg ymyrrol, niwrolawfeddygaeth fel hemicraniectomi, neu unrhyw beth arall) a throsglwyddo fel sy’n ofynnol. Dylid wedyn ail-leoli cleifion i Fronglais ar gyfer gofal parhaus gan gynnwys y gofal meddygol ac, yn ddiweddarach, adsefydlu. Mae digon o gwmpas i’r bwrdd iechyd ystyried sut y gall telefeddygaeth o fewn ac o’r tu allan i’r bwrdd iechyd gefnogi’r model hwn. Mae’r alwad ffôn syml a throsglwyddo radioleg i wasanaethau trydyddol yn dangos yn ddigonol pa mor hawdd y gellir cyflawni hyn, ynghyd â defnydd arloesol o therapyddion ymgynghorol i arwain adsefydlu parhaus mor agos â phosibl at gartref y claf.
A fyddai hyn yn hawdd? Na.
A fyddai hyn yn bosibl? Byddai.
I ateb y cwestiwn pa opsiwn sy’n well: Dim un. Nid yw yr un opsiwn yn cynrychioli dewis gwirioneddol ac mae’n sgandalus bod y bwrdd iechyd yn ceisio portreadu tynnu gwasanaethau strôc o ganolbarth Cymru fel dewis.

