Datganiad i’r WasgI’w ryddhau ar unwaithDyddiad: Dydd Sul 19 Hydref 2025 Bydd grŵp o ymgyrchwyr o Geredigion, Meirionnydd a Phowys yn teithio i Fae Caerdydd ddydd Mercher 22 Hydref i fynychu’r ddadl yn y Senedd ar wasanaethau strôc yng Nghanolbarth Cymru. Daw’r ddadl yn dilyn deiseb a lofnodwyd gan dros 17,500 o bobl yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bwrdd…

Oddi wrth ein Cadeirydd, Lisa Francis: 1300 ddoe (12.09.25) Ar ddiwrnod gwyntog iawn ym Mae Caerdydd! Llofnodion papur deiseb Uned Strôc Ysbyty Bronglais, sef 7,335 ohonynt, wedi’u trosglwyddo i ofal diogel Gareth Price, Clarc Deisebau’r Senedd, heblaw’r 10,854 sydd eisoes wedi’u cyflawni ar-lein! Ro’n i’n amharod iawn i ollwng y ffeil flysgo borffor honno – mae pob un o’r llofnodion…

Cefndir Yn sgil pryderon enfawr a godwyd am gynigion diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i newid naw disgyblaeth glinigol ar draws ardal y bwrdd, mae Protect Bronglais Services yn cyflwyno ein pryderon ein hunain am yr ymgynghoriad hwn a’r effaith andwyol bosibl i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, sy’n gwasanaethu trigolion o Geredigion, Meirionnydd Deheuol a chanol a gorllewin Powys. Nid…

Rydym ni yn galw ar ein cefnogwyr i’n helpu i ddiogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais drwy gasglu mwy o lofnodion ar y deiseb bapur. Os ydych eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb ar-lein, peidiwch â llofnodi’r un hon hefyd – ni fydd llofnodion dyblyg yn cael eu cyfrif. Mae deisebau gyda mwy na 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried…