Lawrlwythwch copi papur o’r Deiseb Gwasanaethau Strôc ym Mronglais.

27/06/2025

Rydym ni yn galw ar ein cefnogwyr i’n helpu i ddiogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais drwy gasglu mwy o lofnodion ar y deiseb bapur.

Os ydych eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb ar-lein, peidiwch â llofnodi’r un hon hefyd – ni fydd llofnodion dyblyg yn cael eu cyfrif.

Mae deisebau gyda mwy na 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd, felly mae pob llofnod yn bwysig!

Llofnodwch ar-lein yma: https://petitions.senedd.wales/petitions/246641

Geiriad uniongyrchol y ddeiseb:

Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar wasanaethau strôc llawn o Ysbyty Bronglais, gan orfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd. Rydym yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith, gan fynnu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn asesu’r effeithiau hyn yn llawn ac yn ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc, gan amddiffyn gwasanaethau iechyd hanfodol yng Nghanolbarth Cymru.

Rhagor o fanylion
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig israddio uned strôc Bronglais i fodel ‘Trin a Throsglwyddo’, a fyddai’n gorfodi cleifion ar daith anniogel o 90 munud hyd at ddwy awr i Lanelli neu Hwlffordd.

  • Nid oes tystiolaeth sy’n rhoi sylw i risgiau’r trosglwyddiadau hyn o ystyried daearyddiaeth wledig, poblogaethau sy’n heneiddio a thrafnidiaeth wael.
  • Bydd cefnogaeth deuluol, sy’n hanfodol ar gyfer adferiad, yn amhosibl oherwydd pellteroedd, gan niweidio canlyniadau.
  • Mae Bronglais yn gyson yn sgorio’n uwch mewn archwiliadau strôc na’i gymheiriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn bod prinder staff sylweddol a chyllid ansicr, sy’n golygu bod y newidiadau hyn yn anniogel ac yn afrealistig.
  • Bronglais yw’r unig Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mewn radiws o 60–100 milltir (ar ffyrdd nad ydynt yn draffyrdd) sy’n gwasanaethu ardaloedd ymhell y tu hwnt i ffiniau ffurfiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Dde Meirionnydd a Phowys.

Mae’r cynlluniau yn yr ymgynghoriad yn tanseilio egwyddorion mynediad teg at ofal iechyd, gan roi trigolion Canolbarth Cymru o dan anfantais anghymesur.

Rydym am i’r Senedd sicrhau gwasanaethau strôc teg a lleol yng Nghanolbarth Cymru.

Unwaith bod y deiseb yn llawn cysylltwch â ni – protectbronglais@gmail.com i drefnu casgliad. Gofynnwn yn garedig am bob copi papur i’w ddychwelyd erbyn 31/08/25.

Lawrlwythwch gopi papur isod i’w argraffu a chasglu llofnodion yn eich cymuned:

Diolch o galon – ni allwn neud hyn heb eich cefnogaeth chi.


Share: