Sefwch gyda ni!
Mae dyfodol gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais mewn perygl, ac mae angen eich help arnom ni i atal y newidiadau hyn. Cysylltwch â’ch Aelodau Senedd heddiw a’u hannog i sefyll dros Fronglais a chymunedau Canolbarth Cymru.
Defnyddiwch y templed isod i anfon neges gref. Mae pob e-bost yn helpu!
Annwyl [Enw’r Aelod o’r Senedd],
Rwy’n ysgrifennu atoch fel etholwr sy’n bryderus iawn ynghylch y newidiadau a gynigir i wasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Byddai’r cynigion yma, sy’n ceisio cyflwyno model ‘trin a throsglwyddo’ ar gyfer cleifion strôc, yn golygu symud cleifion o Fronglais i ysbyty ymhell i’r de, gan deithio’n aml dros 90 munud. Mae hyn yn annerbyniol ar gyfer rhanbarth fel Canolbarth Cymru, lle mae amseroedd teithio hir a mynediad at ofal iechyd eisoes yn peri heriau mawr yn barod.
Bronglais yw ein prif ysbyty cyffredinol yn y Canolbarth, yn gwasanaethu poblogaeth eang a gwledig ar draws Ceredigion, Powys a Meirionnydd. Bydd dileu gwasanaethau adsefydlu o Fronglais yn andwyol i gleifion strôc a’u teuluoedd, a fydd yn ei chael hi’n anodd teithio pellteroedd mawr am ofal hanfodol. Nid oes unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol rhwng Aberystwyth a’r ysbytai arfaethedig yn Hwlffordd nac yn Llanelli.
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar, gyda dros 170 o drigolion lleol pryderus yn bresennol ac yn cael ei wylio ar-lein gan lawer o’n grŵp Facebook sy’n fwy na 1,500 o aelodau, cyfaddefodd Prif Weithredwr Hywel Dda fod y cynlluniau hyn yn ‘anghyflawn’ ac heb eu datblygu’n llawn eto. Gyda’r ymgynghoriad disgwyliedig ar ddiwedd Mai, mae dal amser i lunio’r cynigion terfynol. Fodd bynnag, fel y maent ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau’n brin o fanylion hanfodol, megis sut y caiff cleifion strôc eu cludo neu sut y byddant yn dychwelyd adref ar ôl adsefydlu.
Ar hyn o bryd, mae Bronglais yn sgorio’n uwch ar asesiadau cenedlaethol gofal strôc na rhai o’r ysbytai a gynigir ar gyfer gwasanaethau adsefydlu. Mae adroddiad SSNAP diweddaraf yn dangos sgôr B i Fronglais, o’i gymharu â C i Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg a D i Lanelli. O ystyried y ffeithiau hyn, rwy’n eich annog i ofyn pam nad yw Bronglais hyd yn oed yn cael ei ystyried fel opsiwn ar gyfer adsefydlu strôc o fewn cynlluniau Hywel Dda.
Rwy’n eich gofyn i chi, fel fy nghynrychiolydd etholedig, i:
1. Wrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc yn Bronglais a herio cynlluniau Hywel Dda.
2. Galw am asesiad effaith priodol ar effeithiau dileu adsefydlu strôc o Fronglais.
3. Codi’r mater hwn yn y Senedd a galw ar Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Iechyd i ymyrryd.
4. Sicrhau bod Bronglais yn cael ei ystyried fel safle canolog ar gyfer adsefydlu strôc o fewn cynlluniau’r bwrdd iechyd.
Bronglais yw Calon ein Canolbarth – curiad calon gofal iechyd Canolbarth Cymru. Mae cleifion, teuluoedd a staff gweithgar GIG yn haeddu gwell na chynllun sy’n peryglu diraddio gwasanaethau ac yn gadael lawr ein cymuned.
Rwy’n edrych ymlaen at glywed eich ymateb ar sut rydych yn bwriadu cefnogi eich etholwyr i ddiogelu gwasanaethau Bronglais.
Yn gywir,
[Eich Enw]
[Eich Cyfeiriad]
[Eich E-bost]

